Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Hydref 2018
Amser:
14.30 -
14.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5016
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Mandy Jones AC Dai Lloyd AC Lee Waters AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Alys Thomas (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC.
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau newydd a benodwyd i'r Pwyllgor, sef Dawn Bowden AC, Lee Waters AC a Suzy Davies AC.
Trafododd y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon arno. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am wybodaeth ynghylch sut yr oedd Gweinidogion Cymru wedi ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (yn unol ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011).
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor bapur diweddaru ar y newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog sy'n ymwneud ag Offerynnau Statudol Brexit.
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.